Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 28 Tachwedd 2022
Amser:
13.32 -
15.36
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13039
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Elizabeth Foster (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)285 – Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
2
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
2.2 SL(6)283 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Personau y Mae’n Ofynnol Iddynt Ddarparu Gwybodaeth, a Chyflwyno Hysbysiadau) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)284 - Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)279 - Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)280 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd
3.4 SL(6)282 – Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.5 SL(6)278 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)272 – Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru.
5 Datganiadau Ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
5.1 WS-30C(6)020 - Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad, y llythyr a’r sylwadadu, a chytunodd i ysgrifennu i ofyn am ragor o eglurhad.
6 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
6.1 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
6.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Cyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7 Papurau i'w nodi
6.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Cynhyrchu Organig (Diwygio) (Rhif 2) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach.
7.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.4 Gohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Prif Weinidog: Ail Brotocol Ychwanegol i’r Confensiwn ar Seiberdroseddu ynghylch Gwell Cydweithredu a Datgelu Tystiolaeth Electronig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
9 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn arall mewn cyfarfod yn y dyfodol.
7.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
7.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.